Rhif y ddeiseb: P-06-1397

Teitl y ddeiseb:  Cyflwyno opsiwn prawf ceg y groth yn y cartref yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:  Canser ceg y groth yw'r math mwyaf cyffredin o ganser mewn menywod o dan 35 mlwydd oed. Yn ôl Cancer Research UK, mae modd atal 99.8% o achosion yn y DU. Gall profion ceg y groth achub bywydau drwy ganfod unrhyw newidiadau cyn-ganseraidd yn gynnar pan fydd triniaethau’n fwy effeithiol.
Ar hyn o bryd mae rhwystrau sy'n atal menywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni rhag cael mynediad at y gwasanaeth hwn. Yn Lloegr cynhaliwyd rhai treialon profion ceg y groth yn y cartref, a chredwn y gall yr opsiwn hwnnw yng Nghymru helpu i chwalu’r rhwystrau hyn ac achub bywydau.

Mae rhesymau pam nad yw menywod yn mynd i gael eu profion sgrinio ceg y groth. Gall y rhesymau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i,:-
Embaras
Diffyg addysg
Nid yn uniaethu fel menyw
Canfyddiadau isel o risg

Diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau iechyd
Rhwystrau diwylliannol
Pryder am y prawf
 Problemau o ran delwedd y corff

Trawma - ymosodiad rhywiol, treisio
Amseroedd anghyfleus o ran apwyntiadau

Cafodd ei dreialu yn Llundain yn 2021. Dywedodd Dr Anita Lim, o King's College Llundain, sy'n arwain y treial YouScreen:
"Mae'n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd fel hyn o wneud sgrinio'n haws, ac amddiffyn menywod rhag canser y gellir, i raddau helaeth, ei atal. Mae hunan-samplu yn rhywbeth cyffrous iawn. Mae'r swab syml a chyfleus hwn yn golygu y gellir ei wneud ym mhreifatrwydd a chysur eich cartref eich hun."

Dywedodd Molly Fenton, un sy’n gweithredu dros hawliau menywod yng Nghymru: "Yn ddelfrydol, mae angen i lawer o bethau newid: gwell addysg, sgyrsiau sy'n dileu stigma, a sicrwydd ynghylch y prawf, ond yn y tymor byr gallai hyn achub llawer o fywydau ifanc. Gall achub, yn enwedig, fywydau ifanc 25 mlwydd oed sy'n cael y prawf am y tro cyntaf."

 


1.        Y cefndir

Sgrinio Serfigol Cymru sy’n gyfrifol am raglen sgrinio serfigol GIG Cymru. Gall sgrinio serfigol atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei ddarganfod yn gynnar. Mae'r prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn edrych am fathau risg uchel o Feirws Papiloma Dynol (HPV) sy'n gallu achosi newidiadau yn y celloedd ar y serfics.

Mae hunan-samplu yn golygu bod pobl yn gallu cymryd swab o’r wain eu hunain, a gallant wneud hynny gartref neu mewn clinig. Nid yw hyn yn rhan o raglenni sgrinio serfigol fel mater o drefn yn y DU.

Mae’r erthygl hon gan y BBC (Awst 2023) yn tynnu sylw at alwadau gan ymgyrchwyr i gyflwyno profion ceg y groth yn y cartref yng Nghymru.

Dywed Cancer Research UK fod canfyddiadau cychwynnol y gwaith ymchwil ar y broses hunan-samplu yn galonogol, ond mae angen mwy o ymchwil i gael dealltwriaeth well o ba mor ymarferol fyddai cyflwyno’r broses hunan-samplu fel rhan o raglenni sgrinio serfigol, gan gynnwys effeithiolrwydd clinigol a pha mor gost-effeithiol fyddai hyn, yn ogystal ag unrhyw effaith ar anghydraddoldeb.

Sefydlwyd astudiaeth yn 2021 yn Lloegr fel cam cyntaf i ddarganfod a ellid cynnig hunan-samplu fel opsiwn  ochr yn ochr â'r prawf sgrinio serfigol traddodiadol a gaiff ei gynnal gan glinigwr. Mae'r astudiaeth hon, HPValidate, yn casglu 5,000 o samplau o feddygfeydd a 1,750 o samplau o glinigau colposgopi i bennu cywirdeb hunan-samplau o’r wain o’u cymharu â samplau a gasglwyd gan glinigwyr. Disgwylir i HPValidate gyflwyno adroddiadar y canlyniadau terfynol yn gynnar yn 2024.

 

2.     Camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Ym mis Hydref 2023 ymatebodd Llywodraeth Cymru i gwestiwn ysgrifenedig yn holi ynghylch unrhyw gynlluniau i gynnwys profion ceg y groth yn y cartref fel rhan o'r rhaglen sgrinio bresennol ar gyfer canser serfigol yng Nghymru.

Yn 2023 cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ymchwiliad i ganserau gynaecolegol, a oedd yn cynnwys ystyried hunan-samplu ar gyfer canserau serfigol. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y Pwyllgor y bydd argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (NSC) ynghylch y broses hunan-samplu (yn dilyn y treialon) yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Sgrinio Cymru pan fyddant ar gael, a bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn cael eu llywio gan y rhain wrth gyflwyno unrhyw newidiadau i’r rhaglen. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad a ganlyn:

Mae hunan-samplu yn ddatblygiad cyffrous a allai helpu i fynd i'r afael â rhai o'r rhesymau dros beidio â mynychu apwyntiadau sgrinio serfigol, megis embaras. Edrychwn ymlaen at ganlyniadau’r astudiaethau peilot yn Lloegr ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gefnogi cyflwyno hunan-samplu yng Nghymru, os caiff y broses ei dilysu. Fodd bynnag, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i sicrhau bod y GIG wedi’i sefydlu a’i bod yn barod i gyflwyno hyn cyn gynted â phosibl, os caiff ei gymeradwyo.[…]

Argymhelliad 10:Dylai Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i’r adroddiad hwn, amlinellu pa waith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod GIG Cymru yn barod i roi’r broses hunan-samplu ar waith yn gyflym, os caiff ei chymeradwyo. Dylai hyn gynnwys manylion am unrhyw broses ailgyfeirio adnoddau a allai fod yn angenrheidiol

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Mawrth 2024.

 

3.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi, fel gweddill y DU, yn dilyn y cyngor arbenigol gan NSC y DU ar faterion sgrinio.

The UK NSC is yet to make a recommendation on self-sampling for cervical screening and there is a lot more work to do before it can be implemented. In 2019 the Committee issued a call for more evidence into the use of self-sampling in cervical screening. The Committee is currently considering the available evidence and there are plans for an in-service evaluation that will provide the UK NSC with real world evidence on the effectiveness of offering HPV self-sampling in cervical screening.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod hyn yn ddatblygiad addawol iawn ond, cyn y gellir rhoi proses hunan-samplu ar waith, mae angen i ni sicrhau ei fod yn ddull diogel ac effeithiol o ddarganfod HPV, gan y gallai anfanteision unrhyw ostyngiad yng nghywirdeb y prawf fod yn drech na manteision gwella mynediad at ofal iechyd gan ychwanegu at y risg i iechyd menywod.  Dywed y bydd yn aros am y canfyddiadau hyn ac unrhyw argymhelliad dilynol gan NSC y DU.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.